Neidio at y cynnwys

S4C

Stori dylwyth teg Hoffenheim yn parhau

Wedi wyth gêm yn y Bundesliga, mae 'na olwg anghyfarwydd iawn i'r tabl yn Yr Almaen.

Hoffenheim yn dathlu gôl yn erbyn Hannover 96'Dyw Bayern ddim yn yr hanner uchaf, er gwaethaf buddugoliaeth ffodus yn Karlsruher dros y Sul, ac mae eu rheolwr, Jurgen Klinsmann, o dan gryn bwysau wedi'r dechrau hynod o siomedig i'r tymor.

Ond yn ffodus i Klinsmann a'r Deutchermeister, mae 'na stori fwy yn Yr Almaen ar hyn o bryd - stori sydd yn dwyn y penawdau i gyd - stori 1899 Hoffenheim.

Mae'n rhaid mynd yn ôl i'r 1990au cynnar ar gyfer dechrau'r stori dylwyth teg yma, pan ddychwelodd Dietmar Hopp i'r clwb.

Roedd Hopp yn gyn chwaraewr efo Hoffenheim ond, yn bwysicach na hynny, roedd yn un o sylfaenwyr cwmni SAP - cwmni meddalwedd mwyaf Ewrop - ac eisiau buddsoddi rhywfaint o'i ffortiwn bersonol mewn clwb pêl-droed.

Roedd Hoffenheim yn chwarae yng nghynghrair amatur y Baden-Württemberg A-Liga ar y pryd - wyth adran yn is na'r Bundelsiga - ond gyda chymorth bron i £120m o arian Hopp dros 18 mlynedd, mae Hoffenheim wedi esgyn i'r brig.

DEmb Ba yn dathlu gôl arall i HoffenheimMae 'na rhai ym mhêl-droed yr Almaen sy'n feirniadol o Hopp a Hoffenheim gan gymharu'r sefyllfa i'r ffordd mae Chelsea wedi eu gweddnewid diolch i arian Roman Abramovich.

Ond i fod yn deg â Hoff, 'dyw'r clwb heb wario'n wyrion ar chwaraewyr byd enwog, yn wir mae'r chwaraewyr sydd wedi serennu un ai wedi eu meithrin gan y clwb neu wedi ymuno â'r clwb o dimau hyd yn oed llai ffasiynol na Hoffenheim!

Sefydlwyd academi bêl-droed i blant a phobl ifanc yr ardal a sicrhawyd dyrchafiad i'r Regionalliga Sud - trydedd adran Yr Almaen - gyda charfan o chwaraewyr lleol oedd wedi dod trwy academi'r clwb.

Ar ôl sefydlu'r clwb yn y drydedd adran, penderfynodd Hopp fuddsoddi mewn rheolwr â phrofiad er mwyn ceisio am le yn Bundesliga 2 a llwyddodd i ddenu Ralf Rangnick, oedd eisoes wedi rheoli yn Vfb Stuttgart, Hannover a Schalke 04.

Blwyddyn yn ddiweddarach, roedd Rangnick wedi arwain Hoffenheim i Bundesliga 2.

Roedd angen cryfhau'r garfan yn gynt na'r disgwyl, ond unwaith eto, rhwydwaith sgowtio Hoffenheim oedd yn gyfrifol am ddarganfod y chwaraewyr oedd yn allweddol i lwyddiant y clwb.

Ymunodd chwaraewr rhyngwladol Senegal, Demba Ba, o glwb R.E. Mouscron yng Ngwlad Belg, a symudodd y gwr o Nigeria, Chinedu Obasi, i Hoffenheim ar ôl cyfnod aflwyddiannus yn Norwy gyda Lyn Oslo.

Ibisevic yn dathlu gôl yn erbyn Borussia DortmundDefnyddiodd Hopp ei arian i ddenu Vedad Ibisevic o glwb Alemannia Achen, ac enw Ibisevic sydd, ar ôl naw gêm, ar frig rhestr sgorwyr y Bundesliga.

Ac ar ôl rhwydo ddwywaith yn y fuddugoliaeth dros Hannover dydd Sadwrn diwethaf roedd y gohebwyr i gyd yn sôn am Ewrop a hyd yn oed y Bencampwriaeth.

Chwarddodd y gwr o Bosnia-Herzegovina pan ofynnwyd iddo a oedd modd i Hoffenheim fod yn Deutchermeister.

Ac meddai Rangnick: "Ar hyn o bryd, ry'n ni'n canolbwyntio ar agor bwlch rhyngom ni a'r 16eg safle."

Ond y tîm diwethaf i gael cystal dechreuad i'w tymor ar ôl sicrhau dyrchafiad i'r Bundesliga oedd Kaiserslautern ... aeth ymlaen i ennill y bencampwriaeth!

Mae Sgorio wedi bod draw yn Yr Almaen wrth i Hoffenheim baratoi i groesawu Hamburg i'r Carl-Benz-Stadium - cofiwch wylio nos Lun i gael mwy o hanes Hoff.

24/10/2008 - 11:53

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
1 + 1 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..